wyneb.net

Amdanom Ni

Mae wyneb.net yn gwmni newydd a sefydlwyd yn 2014 gan dîm o ddatblygwyr profiadol y mae ganddyn nhw hefyd amrywiol wybodaeth broffesiynol ac arbenigedd y tu allan i'r gwyddorau gwybodaeth. Mae gennym ni i gyd flynyddoedd o brofiad yn creu ac yn dylunio gwefannau a gwasanaethau, ac mewn amryw ieithoedd rhaglenni.

Mae gennym ni arbenigedd mewn meysydd mor amryfal â phrofi defnyddioldeb, optimeiddio i beiriannau chwilio, rheoli gweinyddion, goruchwylio ymchwil a data, rheoli hawliau digidol ac eiddo deallusol, golygu cynnwys, cyfieithu i'r Gymraeg, dadansoddi prosesau busnes, metadata, rheolaeth digidol, cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy.

Rydym ni'n byw yn Aberystwyth ers tro â chennym ni ymroddiad diffuant i'r cymunedau rydym ni'n byw ynddynt, yn enwedig y gymdeithas Gymraeg rydym ni'n rhan ohoni. Ein nod o hyd yw darparu gwefannau dwyieithog o safon y mae darpariaeth Gymraeg yn rhan graidd, nid ôl-ystyriaeth yn unig.

Yn anffodus ni allwn ni weithio i sefydliadau llywodraeth leol ar hyn o bryd.