wyneb.net

E-Bost

Ein Gwasanaethau

Gallwn ni ddarparu gwasanaethau diogel, dibynadwy i swyddfeydd, cyrff a chymdeithasau ac yn y blaen, ai mawr neu fach.

  • Gweinyddion e-bost cyflym, dibynadwy
  • Gweinyddion anfon e-bost diogel (SMTP)
  • Mewnblychau diogel (gweinyddion IMAP4 a POP3)
  • Gwebost diogel
  • Amddiffyn rhag sbam a firysau

Awgrymiadau

Peidiwch â dibynnu ar y gwasanaethau IMAP4 neu POP3 nad ydynt ond yn anniogel, sy'n cael eu cynnig yn aml gan ISPau sy'n darparu eich cysylltiad band llydan. Effaith hyn fydd bod eich cyfrinair a'ch e-byst yn cael eu darlledu dros y rhyngrwyd heb eu hamgryptio, h.y. gwasanaeth sy'n methu cyrraedd safonau diogelwch y diwydiant.

Os defnyddiwch darparwyr mawr fel Gmail™, Yahoo Mail™ neu Hotmail™, gall eich data e-bost gael eu defnyddio i bwrpasau masnachol fel hysbysebu. Ni fyddwn ni byth yn defnyddio eich data e-bost a lleolir ein gweinyddion e-bost diogel yn y DU.