wyneb.net

Protocol y Rhyngrwyd fersiwn 6 (IPv6)

Pam mae eisiau IPv6 arnaf?

Mae eisiau IPv6 arnoch ond ni welwch chi mo sut bydd e'n newid pethau - oni baech chi'n peidio â'i ddefnyddio! Y rheswm bod arnoch ei eisiau yw fel na bydd y Rhyngrwyd yn prysur ymddatod drwy ddiffyg cyfeiriadau IPv4, nad oes dim fawr ohonynt yn weddill. Mae'r blociau o rai newydd wedi dod i ben ac nawr mae pobl yn trio eu hail-ddefnyddio nhw neu eu rhannu er mwyn osgoi trwsio'r broblem cyn hwyaf ag y bo modd, sy'n creu problemau newydd. Drwy'r cyfeiriadau hyn mae cyfrifiaduron a dyfeisiau eraill fel ffonau symudol yn cael hyd i'w gilydd, ac wedyn fe'u trosglwyddir nhw i linynnau llythrennau rydym ni'n eu hadnabod fel URLau. Gallech chi gymharu cyfeiriadau IP â rhifau ffôn a chymharu URLau â'r geiriau mewn cyfeiriad stryd neu enw tŷ neu enw busnes.

Y Rhyngrwyd Newydd

Mae nifer o broblemau technegol sy'n gysylltiedig ag IPv4 y ceir wared arnyn nhw hefyd. Er na welwch chi hyn ar unwaith, bydd hi'n ei gwneud yn haws cysylltu â dyfeisiau'n uniongyrchol a darparu diogelwch ychwanegol a gwelliannau eraill y gall datblygwyr meddalwedd eu defynyddio i wneud technoleg yn fwy effeithiol ac yn fwy diogel.

Mae peidio â chael IPv6 i'ch gweinyddion a'ch gwefannau yn golygu chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi o bob pwrpas. Cyn bo hir ni fydd unrhyw ddewis ond defnyddio IPv6 fel y gall pawb ddefnyddio'r Rhyngrwyd. Pan ddigwydd hyn, bydd gorfod i'r trawsnewidiad wedi ei hir ddisgwyl ddigwydd yn gyflym. Bydd unrhyw rai sy'n dal ar IPv4 yn unig yn ei chael hi'n amhosibl gweld rhannau helaeth o'r Rhyngrwyd. Fe ddylech chi fod yn barod nawr, sef safon orau'r diwydiant. Mae cymaint o gyfeiriadau IPv6 fel na ddylem ni fyth fynd yn brin ohonyn nhw.

Beth wnawn ni amdani?

Rydym ni'n darparu IPv6 gyda'n gwasanaethau i gyd yn barod. Ni chodwn ni unrhyw dâl ychwanegol am hyn. Rydym ni'n defnyddio'r technolegau a'r safonau gorau o hyd, sy'n gweithio'n dda ac yn gyflym. Fe wnawn ni hyn fel y dylai pawb, fel y gallwn ni gadw'r Rhyngrwyd yn gweithio ac yn tyfu. Ni fyddwn ni'n oedi nes y bydd y Rhyngrwyd, un diwrnod cyn bo hir, yn dechrau cael ei dorri'n ddifrifol a nes y bydd rhaid i bobl gynhyrfu tra caiff e ei thrwsio. Ni fydd eisiau poeni nag arnom ni nag ar ein cwsmeriaid.

Gwybodaeth Bellach

Erthygl: "BT runs trial of IPv6 addressing system"
Gwybodaeth gan Andrews and Arnold Ltd