Ymchwil
Rydym ni'n darparu gwasanaethau arbenigol mewn rheolaeth data a rheolaeth ymchwil, yn ogystal â chymorth technegol a datblygiad i brosiectau noddedig drwy grantiau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a'r celfyddydau.
Ymhlith y meysydd y mae gennym arbenigedd neilltuol ynddynt, gallwn ni roi cyngor ar:
- Gwasanaethau delweddau, sain a chyfryngau, rheolaeth ddigidol a metadata
- Cyhoeddi a chyfnodolion ar-lein, gweinyddu adolygu gan gymheiriaid
- Rheoli hawliau digidol, eiddo deallusol a hawlfraint
- Rheoli data a systemau meddalwedd
- Rheoli gwybodaeth ymchwil a meddalwedd arbenigol
- DSpace, EPrints, CKAN, DKAN a.y.y.b.
Rydym ni'n brofiadol yn gweithio gyda noddwyr cenedlaethol yn y DU a chynghorau ymchwil y DU, e.e strategaeth genedlaethol mewn dynodwyr ymchwil, cynigion grant a mwy. Rydym ni'n fodlon iawn trafod eich anghenion ar gyfer prosiectau mawr neu fach.

